R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safon y gofal mewn ysbytai yn ardal Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg?OAQ(4)1482(FM)
2. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer yr undebau credyd yng Nghymru?OAQ(4)1490(FM)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i greu gwaith newydd yng Nghanol De Cymru?OAQ(4)1485(FM)
4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiadau diweddar Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch taliadau anghyfreithlon yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ac yng Nghyngor Sir Penfro?OAQ(4)1496(FM)
5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion ynghylch sut y cytunir ar ganlyniadau gyda Chomisiynwyr a benodir ganddo ef, a sut y cânt eu monitro? OAQ(4)1487(FM)
6. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer cefnogi'r economi yng Nghymru? OAQ(4)1499(FM)W
7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector pysgota?OAQ(4)1488(FM)
8. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r rhwydwaith Cyngor ar Bopeth ym Mhowys? OAQ(4)1494(FM)
9. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru?OAQ(4)1491(FM)
10. Lynne Neagle (Torfaen):Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghyswllt y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol?OAQ(4)1495(FM) TYNNWYD YNOL
11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio athrawon gwyddoniaeth yng Nghymru?OAQ(401484(FM)
12. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol?OAQ(4)1489(FM)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella’r modd y darperir gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro?OAQ(4)1483(FM)
14. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer atal clefyd y galon yng Nghymru?OAQ(4)1497(FM)
15. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i bobl ag afiechydon prin? OAQ(4)1486(FM)